1 Dyma nhw'n croesi'r llyn i ardal Gerasa.
2 Wrth i Iesu gamu allan o'r cwch, dyma ddyn oedd ag ysbryd drwg ynddo yn dod ato o gyfeiriad y fynwent
3 – yno roedd yn byw, yng nghanol y beddau. Allai neb gadw rheolaeth arno, hyd yn oed trwy roi cadwyni arno.
4 Roedd yn aml yn cael ei rwymo gyda chadwyni am ei ddwylo a'i draed, ond lawer gwaith roedd wedi llwyddo i dorri'r cadwyni a dianc. Doedd neb yn gallu ei gadw dan reolaeth.
5 A dyna lle roedd, ddydd a nos, yn y fynwent ac ar y bryniau cyfagos yn sgrechian ac anafu ei hun â cherrig.
6 Pan welodd Iesu'n dod o bell, rhedodd i'w gyfeiriad a phlygu ar lawr o'i flaen.
7 Rhoddodd sgrech a gwaeddodd nerth ei ben, “Gad di lonydd i mi, Iesu, mab y Duw Goruchaf! Paid poenydio fi er mwyn Duw!”
8 (Roedd Iesu newydd orchymyn i'r ysbryd drwg ddod allan o'r dyn.)
9 Gofynnodd Iesu iddo wedyn, “Beth ydy dy enw di?” “Lleng ydw i,” atebodd, “achos mae llawer iawn ohonon ni yma.”
10 Roedden nhw'n crefu ar i Iesu i beidio eu hanfon nhw i ffwrdd o'r ardal honno.
11 Roedd cenfaint fawr o foch yn pori ar ochr bryn cyfagos,
12 a dyma'r ysbrydion drwg yn pledio arno, “Anfon ni i'r moch acw; gad i ni fyw ynddyn nhw.”
13 Dyma Iesu'n rhoi caniatâd iddyn nhw fynd, ac allan a'r ysbrydion drwg o'r dyn ac i mewn i'r moch. Dyma'r moch i gyd, tua dwy fil ohonyn nhw, yn rhuthro i lawr y llechwedd serth i mewn i'r llyn, a boddi.
14 Dyma'r rhai oedd yn gofalu am y moch yn rhedeg i ffwrdd a dweud wrth bawb ym mhobman beth oedd wedi digwydd. Pan ddaeth y bobl allan at Iesu i weld drostyn nhw eu hunain,
15 roedden nhw wedi dychryn. Dyna lle roedd y dyn oedd wedi bod yng ngafael y cythreuliaid, yn eistedd yn dawel gyda dillad amdano ac yn ei iawn bwyll.
16 Pan ddwedodd y llygad-dystion eto beth oedd wedi digwydd i'r dyn a'r moch,
17 dyma'r bobl yn mynnu fod Iesu'n gadael eu hardal.
18 Pan oedd Iesu ar fin mynd i mewn i'r cwch, dyma'r dyn oedd wedi bod yng ngafael y cythreuliaid yn dod ato ac erfyn am gael aros gydag e.
19 “Na,” meddai Iesu, “Dos adre at dy deulu a dywed wrthyn nhw am y cwbl mae Duw wedi ei wneud i ti, a sut mae wedi bod mor drugarog.”
20 Felly i ffwrdd â'r dyn a dechrau dweud wrth bawb yn ardal Decapolis am bopeth oedd Iesu wedi ei wneud iddo. Roedd pawb wedi eu syfrdanu.
21 Ar ôl i Iesu groesi mewn cwch yn ôl i ochr arall Llyn Galilea, dyma dyrfa fawr yn casglu o'i gwmpas ar lan y dŵr.
22 Daeth un o arweinwyr y synagog ato, dyn o'r enw Jairus. Aeth ar ei liniau o flaen Iesu
23 a phledio'n daer, “Mae fy merch fach i'n marw. Plîs tyrd i'w hiacháu drwy roi dy ddwylo arni, iddi gael byw.”
24 Felly aeth Iesu gyda'r dyn. Roedd tyrfa fawr o bobl o'i gwmpas yn gwthio o bob cyfeiriad.
25 Yn eu canol roedd gwraig oedd wedi bod â gwaedlif arni ers deuddeng mlynedd.
26 Roedd hi wedi dioddef yn ofnadwy dan ofal llawer o feddygon, ac wedi gwario ei harian i gyd ar gael ei thrin, ond yn lle gwella roedd hi wedi mynd o ddrwg i waeth.
27 Roedd wedi clywed am Iesu, a sleifiodd y tu ôl iddo yng nghanol y dyrfa,
28 gan feddwl, “Dim ond i mi lwyddo i gyffwrdd ei ddillad, ca i fy iacháu.” Pan lwyddodd i gyffwrdd ymyl ei glogyn
29 dyma'r gwaedu yn stopio'n syth. Roedd hi'n gallu teimlo ei bod wedi ei hiacháu.
30 Sylweddolodd Iesu fod nerth wedi llifo allan ohono, a throdd yng nghanol y dyrfa a gofyn, “Pwy gyffyrddodd fy nillad i?”
31 Atebodd ei ddisgyblion, “Sut alli di ofyn y fath gwestiwn a'r dyrfa yma'n gwthio o dy gwmpas di?”
32 Ond roedd Iesu'n dal i edrych o gwmpas i weld pwy oedd wedi ei gyffwrdd.
33 Roedd y wraig yn gwybod yn iawn beth oedd wedi digwydd iddi, ac felly dyma hi'n dod ac yn syrthio o'i flaen yn dal i grynu. Dwedodd yr hanes i gyd wrtho.
34 Yna meddai e wrthi, “Wraig annwyl, am i ti gredu rwyt wedi dy iacháu. Dos adre! Bendith Duw arnat ti! Mae'r dioddef ar ben.”
35 Tra roedd Iesu'n siarad, roedd rhyw bobl o dŷ Jairus wedi cyrraedd, a dweud wrtho, “Mae dy ferch wedi marw, felly does dim pwynt poeni'r athro ddim mwy.”
36 Ond chymerodd Iesu ddim sylw o beth gafodd ei ddweud, dim ond dweud wrth Jairus, “Paid bod ofn; dalia i gredu.”
37 Dim ond Pedr, a Iago a'i frawd Ioan gafodd fynd yn eu blaenau gyda Iesu.
38 Dyma nhw'n cyrraedd cartref Jairus, ac roedd y lle mewn cynnwrf, a phobl yn crïo ac yn udo mewn galar.
39 Pan aeth Iesu i mewn dwedodd wrthyn nhw, “Beth ydy'r holl sŵn yma? Pam dych chi'n crïo? Dydy'r ferch fach ddim wedi marw – cysgu mae hi!”
40 Dechreuodd pobl chwerthin am ei ben, ond dyma Iesu'n eu hanfon nhw i gyd allan o'r tŷ. Yna aeth a'r tad a'r fam a'r tri disgybl i mewn i'r ystafell lle roedd y ferch fach.
41 Gafaelodd yn ei llaw, a dweud wrthi, “Talitha cŵm” (sef, “Cod ar dy draed, ferch fach!”)
42 A dyma'r ferch, oedd yn ddeuddeg oed, yn codi ar ei thraed a dechrau cerdded o gwmpas. Roedd y rhieni a'r disgyblion wedi eu syfrdanu'n llwyr.
43 Rhybuddiodd nhw i beidio dweud wrth neb beth oedd wedi digwydd; yna dwedodd “Rhowch rywbeth i'w fwyta iddi.”