16 Yna gwrthododd adael i unrhyw un gario pethau i'w gwerthu i mewn i'r deml.
17 Yna dechreuodd eu dysgu, “Onid ydy'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: ‘Bydd fy nhŷ i yn cael ei alw yn dŷ gweddi i'r holl genhedloedd.’?Ond dych chi wedi troi'r lle yn ‘guddfan i ladron’!”
18 Clywodd y prif offeiriaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith beth ddwedodd e, a mynd ati i geisio dod o hyd i ffordd i'w ladd. Roedden nhw'n ei weld yn fygythiad i'w hawdurdod, am fod y bobl wedi eu syfrdanu gan ei eiriau.
19 Pan ddechreuodd hi nosi, dyma Iesu a'i ddisgyblion yn gadael y ddinas.
20 Y bore wedyn roedden nhw'n pasio'r goeden ffigys eto. Roedd hi wedi gwywo'n llwyr!
21 Cofiodd Pedr eiriau Iesu'r diwrnod cynt, ac meddai, “Rabbi, edrych! Mae'r goeden wnest ti ei melltithio wedi gwywo!”
22 “Rhaid i chi gredu yn Nuw,” meddai Iesu.