1 Roedd Iesu'n defnyddio straeon i ddarlunio beth roedd e eisiau'i ddweud, ac meddai wrthyn nhw: “Roedd rhyw ddyn wedi plannu gwinllan. Cododd ffens o'i chwmpas, cloddio lle i wasgu'r sudd o'r grawnwin ac adeiladu tŵr i'w gwylio. Yna gosododd y winllan ar rent i rhyw ffermwyr cyn mynd i ffwrdd ar daith bell.
2 Pan oedd hi'n amser casglu'r grawnwin anfonodd un o'i weision i nôl ei siâr o'r ffrwyth gan y tenantiaid.
3 Ond dyma'r tenantiaid yn gafael yn y gwas, ei guro a'i anfon i ffwrdd heb ddim.
4 Felly dyma'r dyn yn anfon gwas arall; dyma nhw'n cam-drin hwnnw a'i anafu ar ei ben.
5 Pan anfonodd was arall eto, cafodd hwnnw ei ladd. Digwyddodd yr un peth i lawer o weision eraill – cafodd rhai eu curo ac eraill eu lladd.