2 Pan oedd hi'n amser casglu'r grawnwin anfonodd un o'i weision i nôl ei siâr o'r ffrwyth gan y tenantiaid.
3 Ond dyma'r tenantiaid yn gafael yn y gwas, ei guro a'i anfon i ffwrdd heb ddim.
4 Felly dyma'r dyn yn anfon gwas arall; dyma nhw'n cam-drin hwnnw a'i anafu ar ei ben.
5 Pan anfonodd was arall eto, cafodd hwnnw ei ladd. Digwyddodd yr un peth i lawer o weision eraill – cafodd rhai eu curo ac eraill eu lladd.
6 “Dim ond un oedd ar ôl y gallai ei anfon, a'i fab oedd hwnnw, ac roedd yn ei garu'n fawr. Yn y diwedd dyma fe'n ei anfon, gan feddwl, ‘Byddan nhw'n parchu fy mab i.’
7 “Ond dyma'r tenantiaid yn dweud wrth ei gilydd, ‘Hwn sy'n mynd i etifeddu'r winllan. Os lladdwn ni hwn cawn ni'r winllan i ni'n hunain.’
8 Felly dyma nhw'n gafael ynddo a'i ladd a thaflu ei gorff allan o'r winllan.