28 Roedd un o'r arbenigwyr yn y Gyfraith yno'n gwrando arnyn nhw'n dadlau. Pan welodd fod Iesu wedi rhoi ateb da iddyn nhw, gofynnodd yntau gwestiwn iddo. “O'r holl orchmynion i gyd, pa un ydy'r pwysica?” gofynnodd.
29 Atebodd Iesu, “Y gorchymyn pwysica ydy hwn: ‘Gwrando Israel! Yr Arglwydd ein Duw ydy'r unig Arglwydd.
30 Rwyt i garu'r Arglwydd dy Dduw â'th holl galon, ac â'th holl enaid, â'th holl feddwl ac â'th holl nerth.’
31 A'r ail ydy: ‘Rwyt i garu dy gymydog fel rwyt ti'n dy garu dy hun.’ Does dim un gorchymyn sy'n bwysicach na'r rhain.”
32 “Rwyt ti'n iawn, athro,” meddai'r dyn, “Mae'n wir – un Duw sydd, a does dim un arall yn bod.
33 Ei garu fe â'r holl galon, ac â'r holl feddwl ac â'r holl nerth sydd ynon ni sy'n bwysig, a charu cymydog fel dŷn ni'n caru'n hunain. Mae hyn yn bwysicach na'r aberthau llosg a'r offrymau i gyd.”
34 Roedd Iesu'n gweld oddi wrth ei ymateb ei fod wedi deall, a dwedodd wrtho, “Dwyt ti ddim yn bell iawn o deyrnas Dduw.”O hynny ymlaen doedd neb yn meiddio gofyn mwy o gwestiynau iddo.