7 “Ond dyma'r tenantiaid yn dweud wrth ei gilydd, ‘Hwn sy'n mynd i etifeddu'r winllan. Os lladdwn ni hwn cawn ni'r winllan i ni'n hunain.’
8 Felly dyma nhw'n gafael ynddo a'i ladd a thaflu ei gorff allan o'r winllan.
9 “Beth fydd y dyn biau'r winllan yn ei wneud? Dweda i wrthoch chi beth! – bydd yn dod ac yn lladd y tenantiaid a rhoi'r winllan i rai eraill.
10 Ydych chi ddim wedi darllen hyn yn yr ysgrifau sanctaidd: ‘Mae'r garreg wrthododd yr adeiladwyr wedi cael ei gwneud yn garreg sylfaen;
11 yr Arglwydd wnaeth hyn, ac mae'r peth yn rhyfeddol yn ein golwg’? ”
12 Roedden nhw eisiau ei arestio, am eu bod yn gwybod yn iawn ei fod e'n sôn amdanyn nhw yn y stori. Ond roedd ofn y dyrfa arnyn nhw; felly roedd rhaid iddyn nhw adael llonydd iddo a mynd i ffwrdd.
13 Wedyn dyma'r arweinwyr Iddewig yn anfon rhai o'r Phariseaid a rhai o gefnogwyr Herod gyda'i gilydd at Iesu. Roedden nhw eisiau ei gael i ddweud rhywbeth fyddai'n ei gael i drwbwl.