1 Wrth iddyn nhw adael y deml, dyma un o'r disgyblion yn dweud, “Edrych ar y cerrig anferth yma, athro! Mae'r adeiladau yma'n fendigedig!”
2 Atebodd Iesu, “Ydych chi'n gweld yr adeiladau mawr yma i gyd? Bydd y cwbl yn cael ei chwalu, a fydd dim un garreg wedi ei gadael yn ei lle.”
3 Yn nes ymlaen, pan oedd Iesu'n eistedd ar ochr Mynydd yr Olewydd, gyferbyn â'r deml, dyma Pedr, Iago, Ioan ac Andreas yn dod ato ac yn gofyn iddo'n breifat,
4 “Pryd mae beth roeddet ti'n sôn amdano yn mynd i ddigwydd? Fydd unrhyw rybudd cyn i'r pethau yma i gyd ddigwydd?”
5 Atebodd Iesu: “Gwyliwch fod neb yn eich twyllo chi.
6 Bydd llawer yn dod yn hawlio fy awdurdod i, a dweud ‘Fi ydy'r Meseia,’ a byddan nhw'n llwyddo i dwyllo llawer o bobl.