20 Oni bai i'r Arglwydd ei wneud yn gyfnod byr, fyddai neb yn dianc! Ond mae'n gwneud hynny er mwyn y bobl mae wedi eu dewis iddo'i hun.
21 Felly, os bydd rhywun yn dweud, ‘Edrych! Hwn ydy'r Meseia!’ neu, ‘Edrych! Dacw fe!’ peidiwch credu'r peth.
22 Bydd llawer i ‛Feseia‛ ffug a phroffwydi ffug yn dod ac yn gwneud gwyrthiau syfrdanol. Bydden nhw'n twyllo'r bobl hynny mae Duw wedi eu dewis petai'r fath beth yn bosib!
23 Felly gwyliwch! Dw i wedi dweud hyn i gyd ymlaen llaw.
24 “Ond bryd hynny, ar ôl yr argyfwng, ‘Bydd yr haul yn tywyllu,a'r lleuad yn peidio rhoi golau;
25 bydd y sêr yn syrthio o'r awyr, a'r planedau yn ansefydlog.’
26 “Bryd hynny bydd pawb yn fy ngweld i, Mab y Dyn, yn dod mewn cymylau gyda grym ac ysblander mawr.