3 Yn nes ymlaen, pan oedd Iesu'n eistedd ar ochr Mynydd yr Olewydd, gyferbyn â'r deml, dyma Pedr, Iago, Ioan ac Andreas yn dod ato ac yn gofyn iddo'n breifat,
4 “Pryd mae beth roeddet ti'n sôn amdano yn mynd i ddigwydd? Fydd unrhyw rybudd cyn i'r pethau yma i gyd ddigwydd?”
5 Atebodd Iesu: “Gwyliwch fod neb yn eich twyllo chi.
6 Bydd llawer yn dod yn hawlio fy awdurdod i, a dweud ‘Fi ydy'r Meseia,’ a byddan nhw'n llwyddo i dwyllo llawer o bobl.
7 Bydd rhyfeloedd a byddwch yn clywed sôn am ryfeloedd. Ond peidiwch cynhyrfu – mae pethau felly'n siŵr o ddigwydd, ond fydd y diwedd yn dal heb ddod.
8 Bydd gwledydd a llywodraethau yn rhyfela yn erbyn ei gilydd. Bydd daeargrynfeydd mewn gwahanol leoedd, a newyn. Dim ond y dechrau ydy hyn!
9 “Gwyliwch eich hunain. Cewch eich dwyn o flaen yr awdurdodau, a'ch curo yn y synagogau. Cewch eich cyhuddo o fod yn ddilynwyr i mi o flaen llywodraethwyr a brenhinoedd, a byddwch yn tystiolaethu iddyn nhw amdana i.