35 Pan glywodd rhai o'r bobl oedd yn sefyll yno hyn, “Ust!” medden nhw, “Mae'n galw ar y proffwyd Elias am help.”
36 Dyma un ohonyn nhw'n rhedeg ac yn trochi ysbwng mewn gwin sur rhad, a'i godi ar flaen ffon i'w gynnig i Iesu i'w yfed. “Gadewch lonydd iddo,” meddai, “i ni gael gweld os daw Elias i'w dynnu i lawr.”
37 Ond yna dyma Iesu'n gweiddi'n uchel, yna stopio anadlu a marw.
38 A dyma'r llen oedd yn hongian yn y deml yn rhwygo yn ei hanner o'r top i'r gwaelod.
39 Roedd capten milwrol Rhufeinig yn sefyll yno wrth y groes. Pan welodd sut buodd Iesu farw, ei eiriau oedd, “Mab Duw oedd y dyn yma, reit siŵr!”
40 Roedd nifer o wragedd hefyd yn sefyll yn gwylio beth oedd yn digwydd o bell, gan gynnwys Mair Magdalen, Mair mam Iago bach a Joses, a hefyd Salome.
41 Roedden nhw wedi bod yn dilyn Iesu o gwmpas Galilea gan wneud yn siŵr fod ganddo bopeth roedd ei angen. Roedden nhw, a llawer o wragedd eraill wedi dod i Jerwsalem gydag e.