1 Yn hwyr ar y nos Sadwrn, pan oedd y Saboth drosodd, aeth Mair Magdalen, Salome a Mair mam Iago i brynu perlysiau ar gyfer eneinio corff Iesu.
2 Yna'n gynnar iawn ar y bore Sul, pan oedd hi yn gwawrio, dyma nhw'n mynd at y bedd.
3 Roedden nhw wedi bod yn trafod ar eu ffordd yno pwy oedd yn mynd i rolio'r garreg oddi ar geg y bedd iddyn nhw.
4 Ond pan gyrhaeddon nhw'r bedd dyma nhw'n gweld fod y garreg, oedd yn un drom iawn, eisoes wedi ei rholio i ffwrdd.
5 Wrth gamu i mewn i'r bedd, dyma nhw'n dychryn, achos roedd dyn ifanc yn gwisgo mantell wen yn eistedd yno ar yr ochr dde.
6 “Peidiwch dychryn,” meddai wrthyn nhw. “Dych chi'n edrych am Iesu o Nasareth gafodd ei groeshoelio. Mae wedi dod yn ôl yn fyw! Dydy e ddim yma. Edrychwch, dyma lle cafodd ei gorff ei roi i orwedd.