11 Pan ddwedodd hi fod Iesu'n fyw a'i bod hi wedi ei weld, doedden nhw ddim yn ei chredu.
12 Dangosodd ei hun wedyn, mewn ffurf wahanol, i ddau o'i ddilynwyr oedd ar eu ffordd o Jerwsalem i'r wlad.
13 Dyma nhw hefyd yn brysio'n ôl i Jerwsalem i ddweud wrth y lleill; ond doedden nhw ddim yn eu credu nhw chwaith.
14 Yn nes ymlaen dangosodd Iesu ei hun i'r unarddeg disgybl pan oedden nhw'n cael pryd o fwyd. Ar ôl dweud y drefn wrthyn nhw am fod mor ystyfnig yn gwrthod credu y rhai oedd wedi ei weld ar ôl iddo ddod yn ôl yn fyw,
15 dwedodd wrthyn nhw, “Ewch i gyhoeddi'r newyddion da i bawb drwy'r byd i gyd.
16 Bydd pob un sy'n credu ac yn cael ei fedyddio yn cael ei achub, ond pob un sy'n gwrthod credu yn cael ei gondemnio.
17 A bydd yr arwyddion gwyrthiol yma'n digwydd i'r rhai sy'n credu: Byddan nhw'n bwrw cythreuliaid allan o bobl yn fy enw i; ac yn siarad ieithoedd gwahanol.