6 “Peidiwch dychryn,” meddai wrthyn nhw. “Dych chi'n edrych am Iesu o Nasareth gafodd ei groeshoelio. Mae wedi dod yn ôl yn fyw! Dydy e ddim yma. Edrychwch, dyma lle cafodd ei gorff ei roi i orwedd.
7 Ewch, a dweud wrth ei ddisgyblion a Pedr, ‘Mae Iesu'n mynd i Galilea o'ch blaen chi. Cewch ei weld yno, yn union fel roedd wedi dweud.’”
8 Dyma'r gwragedd yn mynd allan ac yn rhedeg oddi wrth y bedd, yn crynu drwyddynt ac mewn dryswch. Roedd ganddyn nhw ofn dweud wrth unrhyw un am y peth.
9 Pan ddaeth Iesu yn ôl yn fyw yn gynnar ar y bore Sul, dangosodd ei hun gyntaf i Mair Magdalen, y wraig y bwriodd saith o gythreuliaid allan ohoni.
10 Aeth hithau i ddweud wrth y rhai oedd wedi bod gydag e. Roedden nhw'n galaru ac yn crïo.
11 Pan ddwedodd hi fod Iesu'n fyw a'i bod hi wedi ei weld, doedden nhw ddim yn ei chredu.
12 Dangosodd ei hun wedyn, mewn ffurf wahanol, i ddau o'i ddilynwyr oedd ar eu ffordd o Jerwsalem i'r wlad.