1 Ychydig ddyddiau wedyn, aeth Iesu yn ôl i Capernaum. Aeth y si o gwmpas ei fod wedi dod adre,
2 a daeth tyrfa mor fawr i'w weld nes bod dim lle hyd yn oed i sefyll y tu allan i'r drws. Dyma Iesu'n cyhoeddi neges Duw iddyn nhw.
3 Yna daeth rhyw bobl â dyn oedd wedi ei barlysu ato. Roedd pedwar yn ei gario,
4 ond yn methu mynd yn agos at Iesu am fod yno gymaint o dyrfa. Felly dyma nhw'n torri twll yn y to uwch ei ben, a gollwng y dyn i lawr ar y fatras oedd yn gorwedd arni.
5 Pan welodd Iesu'r ffydd oedd ganddyn nhw, dwedodd wrth y dyn oedd wedi ei barlysu, “Ffrind, mae dy bechodau wedi eu maddau.”
6 Roedd rhai o'r arbenigwyr yn y Gyfraith yno. Yr hyn oedd yn mynd trwy'u meddyliau nhw oedd,