11 “Cod ar dy draed, cymer dy fatras, a dos adre.”
12 A dyna'n union wnaeth y dyn! Cododd ar ei draed yn y fan a'r lle, cymryd ei fatras, a cherdded allan o flaen pawb. Roedd pawb wedi eu syfrdanu'n llwyr, ac yn moli Duw. “Dŷn ni erioed wedi gweld dim byd tebyg i hyn!” medden nhw.
13 Aeth Iesu allan at y llyn unwaith eto. Daeth tyrfa fawr o bobl ato, ac roedd yn eu dysgu.
14 Yna wrth fynd yn ei flaen, gwelodd Lefi fab Alffeus yn eistedd yn y swyddfa dollau lle roedd yn gweithio. “Tyrd, dilyn fi,” meddai Iesu wrtho; a chododd Lefi ar unwaith a mynd ar ei ôl.
15 Yn nes ymlaen aeth Iesu a'i ddisgyblion am bryd o fwyd i dŷ Lefi. Roedd criw mawr o'r rhai oedd yn casglu trethi i Rufain a phobl eraill roedd y Phariseaid yn eu hystyried yn ‛bechaduriaid‛ yn y parti hefyd. (Pobl felly oedd llawer o'r rhai oedd yn dilyn Iesu).
16 Wrth iddyn nhw ei weld e'n bwyta gyda ‛pechaduriaid‛ a casglwyr trethi, dyma rai o'r Phariseaid oedd yn arbenigwyr yn y Gyfraith yn gofyn i'w ddisgyblion: “Pam mae e'n bwyta gyda'r bradwyr sy'n casglu trethi i Rufain, a phobl eraill sy'n ddim byd ond ‛pechaduriaid‛?”
17 Clywodd Iesu hyn, a dwedodd wrthyn nhw, “Dim pobl iach sydd angen meddyg, ond pobl sy'n sâl. Dw i wedi dod i alw pechaduriaid, dim y rhai sy'n meddwl eu bod nhw heb fai.”