19 Atebodd Iesu nhw, “Dydy pobl ddim yn mynd i wledd briodas i ymprydio! Maen nhw yno i ddathlu gyda'r priodfab. Maen nhw yno i fwynhau eu hunain!
20 Ond bydd y priodfab yn cael ei gymryd i ffwrdd oddi wrthyn nhw, a byddan nhw'n ymprydio bryd hynny.
21 “Does neb yn trwsio hen ddilledyn gyda chlwt o frethyn newydd sydd heb shrincio. Byddai'r brethyn newydd yn tynnu ar yr hen ac yn achosi rhwyg gwaeth.
22 A does neb yn tywallt gwin sydd heb aeddfedu i hen boteli crwyn. Byddai'r crwyn yn byrstio wrth i'r gwin aeddfedu, a'r poteli a'r gwin yn cael eu difetha. Na, rhaid defnyddio poteli crwyn newydd i'w ddal.”
23 Roedd Iesu'n croesi drwy ganol caeau ŷd ryw ddydd Saboth, a dyma'i ddisgyblion yn dechrau tynnu rhai o'r tywysennau ŷd.
24 “Edrych!” meddai'r Phariseaid, “Pam mae dy ddisgyblion di yn torri rheolau'r Gyfraith ar y Saboth?”
25 Atebodd Iesu nhw, “Ydych chi erioed wedi darllen beth wnaeth Dafydd pan oedd e a'i griw o ddilynwyr yn llwgu?