1 Dro arall eto pan aeth Iesu i'r synagog, roedd yno ddyn oedd â'i law yn ddiffrwyth.
2 Roedd yna rai yn gwylio Iesu'n ofalus i weld a fyddai'n iacháu'r dyn ar y Saboth. Roedden nhw'n edrych am unrhyw esgus i'w gyhuddo!
3 Dyma Iesu'n galw'r dyn ato, “Tyrd i sefyll yma'n y canol.”
4 Wedyn dyma Iesu'n gofyn i'r rhai oedd eisiau ei gyhuddo, “Beth mae'r Gyfraith yn ei ddweud sy'n iawn i'w wneud ar y dydd Saboth: pethau da neu bethau drwg? Achub bywyd neu ladd?” Ond wnaeth neb ateb.