22 Roedd yr arbenigwyr yn y Gyfraith, oedd wedi teithio o Jerwsalem, yn dweud amdano, “Mae wedi ei feddiannu gan Beelsebwl, tywysog y cythreuliaid! Dyna sut mae'n gallu bwrw allan gythreuliaid!”
23 Felly dyma Iesu'n eu galw draw ac yn eu hateb drwy ddefnyddio darlun: “Sut mae Satan yn gallu bwrw ei hun allan?
24 Dydy teyrnas lle mae rhyfel cartref byth yn mynd i sefyll!
25 Neu os ydy teulu yn ymladd â'i gilydd o hyd, bydd y teulu hwnnw'n chwalu.
26 A'r un fath, os ydy Satan yn ymladd yn erbyn ei hun a'i deyrnas wedi ei rhannu, fydd e ddim yn sefyll; mae hi ar ben arno!
27 Y gwir ydy, all neb fynd i mewn i gartre'r dyn cryf a dwyn ei eiddo heb rwymo'r dyn cryf yn gyntaf. Bydd yn gallu dwyn popeth o'i dŷ wedyn.
28 Credwch chi fi – mae maddeuant i'w gael am bob pechod, hyd yn oed am gabledd,