25 Neu os ydy teulu yn ymladd â'i gilydd o hyd, bydd y teulu hwnnw'n chwalu.
26 A'r un fath, os ydy Satan yn ymladd yn erbyn ei hun a'i deyrnas wedi ei rhannu, fydd e ddim yn sefyll; mae hi ar ben arno!
27 Y gwir ydy, all neb fynd i mewn i gartre'r dyn cryf a dwyn ei eiddo heb rwymo'r dyn cryf yn gyntaf. Bydd yn gallu dwyn popeth o'i dŷ wedyn.
28 Credwch chi fi – mae maddeuant i'w gael am bob pechod, hyd yn oed am gabledd,
29 ond does dim maddeuant i'r sawl sy'n cablu yn erbyn yr Ysbryd Glân; mae'r person hwnnw'n euog o bechod sy'n aros am byth.”
30 (Dwedodd hyn am eu bod wedi dweud fod ysbryd drwg ynddo.)
31 Dyna pryd y cyrhaeddodd mam Iesu a'i frodyr yno. Dyma nhw'n sefyll y tu allan, ac yn anfon rhywun i'w alw.