28 Credwch chi fi – mae maddeuant i'w gael am bob pechod, hyd yn oed am gabledd,
29 ond does dim maddeuant i'r sawl sy'n cablu yn erbyn yr Ysbryd Glân; mae'r person hwnnw'n euog o bechod sy'n aros am byth.”
30 (Dwedodd hyn am eu bod wedi dweud fod ysbryd drwg ynddo.)
31 Dyna pryd y cyrhaeddodd mam Iesu a'i frodyr yno. Dyma nhw'n sefyll y tu allan, ac yn anfon rhywun i'w alw.
32 Roedd tyrfa yn eistedd o'i gwmpas, a dyma nhw'n dweud wrtho, “Mae dy fam a dy frodyr y tu allan yn edrych amdanat ti.”
33 Atebodd, “Pwy ydy fy mam a'm brodyr i?”
34 “Dyma fy mam a'm brodyr i!” meddai, gan edrych ar y rhai oedd yn eistedd mewn cylch o'i gwmpas.