31 Dyna pryd y cyrhaeddodd mam Iesu a'i frodyr yno. Dyma nhw'n sefyll y tu allan, ac yn anfon rhywun i'w alw.
32 Roedd tyrfa yn eistedd o'i gwmpas, a dyma nhw'n dweud wrtho, “Mae dy fam a dy frodyr y tu allan yn edrych amdanat ti.”
33 Atebodd, “Pwy ydy fy mam a'm brodyr i?”
34 “Dyma fy mam a'm brodyr i!” meddai, gan edrych ar y rhai oedd yn eistedd mewn cylch o'i gwmpas.
35 “Mae pwy bynnag sy'n gwneud beth mae Duw eisiau yn frawd a chwaer a mam i mi.”