9 Gan fod tyrfa mor fawr yno gofynnodd Iesu i'r disgyblion gael cwch bach yn barod, rhag ofn i'r dyrfa ei wasgu.
10 Y broblem oedd fod cymaint o bobl oedd yn sâl yn gwthio ymlaen i'w gyffwrdd. Roedd pawb yn gwybod ei fod wedi iacháu cymaint o bobl.
11 A phan oedd pobl wedi eu meddiannu gan ysbrydion drwg yn ei weld, roedden nhw'n syrthio ar lawr o'i flaen a gweiddi, “Mab Duw wyt ti!”
12 Ond roedd Iesu'n eu rhybuddio nhw i beidio dweud pwy oedd e.
13 Aeth Iesu i fyny i ben mynydd a galw ato y rhai roedd wedi eu dewis, a dyma nhw'n mynd ato.
14 Dewisodd ddeuddeg ohonyn nhw fel ei gynrychiolwyr personol. Nhw fyddai gydag e drwy'r amser, ac roedd am eu hanfon allan i gyhoeddi'r newyddion da,
15 a rhoi awdurdod iddyn nhw i fwrw cythreuliaid allan o bobl.