1 Dechreuodd Iesu ddysgu'r bobl ar lan Llyn Galilea unwaith eto. Roedd tyrfa enfawr wedi casglu o'i gwmpas nes bod rhaid iddo eistedd mewn cwch ar y llyn, tra roedd y bobl i gyd yn sefyll ar y lan.
2 Roedd yn defnyddio llawer o straeon i ddarlunio beth roedd yn ei ddysgu iddyn nhw.
3 “Gwrandwch!” meddai:“Aeth ffermwr allan i hau hadau.
4 Wrth iddo wasgaru'r had, dyma peth ohono yn syrthio ar y llwybr, a dyma'r adar yn dod a'i fwyta.
5 Dyma beth o'r had yn syrthio ar dir creigiog lle doedd ond haen denau o bridd. Tyfodd yn ddigon sydyn