20 Ond yr had sy'n syrthio ar dir da ydy'r bobl hynny sy'n clywed y neges ac yn ei chredu. Mae'r effaith ar eu bywydau nhw fel cnwd anferth – tri deg, chwe deg, neu hyd yn oed gan gwaith mwy na gafodd ei hau.”
21 Dwedodd wrthyn nhw wedyn, “Ydych chi'n mynd â lamp i mewn i ystafell ac yna'n rhoi powlen drosti neu'n ei chuddio dan y gwely? Na, dych chi'n gosod y lamp ar fwrdd iddi oleuo'r ystafell.
22 Bydd popeth sydd wedi ei guddio yn cael ei weld yn glir maes o law. Bydd pob cyfrinach yn dod i'r golwg.
23 Gwrandwch yn ofalus os dych chi'n awyddus i ddysgu!”
24 Yna aeth yn ei flaen i ddweud “Gwyliwch beth dych chi'n gwrando arno. Y mesur dych chi'n ei ddefnyddio fydd yn cael ei ddefnyddio arnoch chi – a mwy!
25 Bydd y rhai sydd wedi deall rhywfaint eisoes yn derbyn mwy; ond am y rhai hynny sydd heb ddeall dim, bydd hyd yn oed beth maen nhw'n meddwl eu bod yn ei ddeall yn cael ei gymryd oddi arnyn nhw.”
26 Dwedodd Iesu wedyn, “Dyma i chi ddarlun arall o deyrnasiad Duw. Mae fel ffermwr yn hau had ar y tir.