33 Roedd Iesu'n defnyddio llawer o straeon fel hyn i rannu ei neges, cymaint ag y gallen nhw ei ddeall.
34 Doedd e'n dweud dim heb ddefnyddio stori fel darlun. Ond yna roedd yn esbonio'r cwbl i'w ddisgyblion pan oedd ar ei ben ei hun gyda nhw.
35 Yn hwyr y p'nawn hwnnw, a hithau'n dechrau nosi, dwedodd Iesu wrth ei ddisgyblion, “Gadewch i ni groesi i ochr draw'r llyn.”
36 Felly dyma nhw'n gadael y dyrfa, a mynd gyda Iesu yn y cwch roedd wedi bod yn eistedd ynddo. Aeth cychod eraill gyda nhw hefyd.
37 Yn sydyn cododd storm ofnadwy. Roedd y tonnau mor wyllt nes bod dŵr yn dod i mewn i'r cwch ac roedd mewn peryg o suddo.
38 Ond roedd Iesu'n cysgu'n drwm drwy'r cwbl ar glustog yn starn y cwch. Dyma'r disgyblion mewn panig yn ei ddeffro, “Athro, wyt ti ddim yn poeni ein bod ni'n mynd i foddi?”
39 Cododd Iesu a cheryddu'r gwynt, a dweud wrth y tonnau, “Distaw! Byddwch lonydd!” Ac yn sydyn stopiodd y gwynt chwythu ac roedd pobman yn hollol dawel.