34 Doedd e'n dweud dim heb ddefnyddio stori fel darlun. Ond yna roedd yn esbonio'r cwbl i'w ddisgyblion pan oedd ar ei ben ei hun gyda nhw.
35 Yn hwyr y p'nawn hwnnw, a hithau'n dechrau nosi, dwedodd Iesu wrth ei ddisgyblion, “Gadewch i ni groesi i ochr draw'r llyn.”
36 Felly dyma nhw'n gadael y dyrfa, a mynd gyda Iesu yn y cwch roedd wedi bod yn eistedd ynddo. Aeth cychod eraill gyda nhw hefyd.
37 Yn sydyn cododd storm ofnadwy. Roedd y tonnau mor wyllt nes bod dŵr yn dod i mewn i'r cwch ac roedd mewn peryg o suddo.
38 Ond roedd Iesu'n cysgu'n drwm drwy'r cwbl ar glustog yn starn y cwch. Dyma'r disgyblion mewn panig yn ei ddeffro, “Athro, wyt ti ddim yn poeni ein bod ni'n mynd i foddi?”
39 Cododd Iesu a cheryddu'r gwynt, a dweud wrth y tonnau, “Distaw! Byddwch lonydd!” Ac yn sydyn stopiodd y gwynt chwythu ac roedd pobman yn hollol dawel.
40 Yna meddai wrth ei ddisgyblion, “Pam dych chi mor ofnus? Ydych chi'n dal ddim yn credu?”