4 Wrth iddo wasgaru'r had, dyma peth ohono yn syrthio ar y llwybr, a dyma'r adar yn dod a'i fwyta.
5 Dyma beth o'r had yn syrthio ar dir creigiog lle doedd ond haen denau o bridd. Tyfodd yn ddigon sydyn
6 ond yn yr haul poeth dyma'r tyfiant yn gwywo. Doedd ganddo ddim gwreiddiau.
7 Yna dyma beth o'r had yn syrthio i ganol drain. Tyfodd y drain a thagu'r planhigion, felly doedd dim grawn yn y dywysen.
8 Ond syrthiodd peth o'r had ar bridd da. Tyfodd cnwd da yno – cymaint â thri deg, chwe deg neu hyd yn oed gan gwaith mwy na gafodd ei hau.”
9 “Gwrandwch yn ofalus os dych chi'n awyddus i ddysgu!”
10 Yn nes ymlaen, pan oedd ar ei ben ei hun, dyma'r deuddeg disgybl a rhai eraill oedd o'i gwmpas yn gofyn iddo beth oedd ystyr y stori.