1 Gadawodd Iesu'r ardal honno a mynd yn ôl gyda'i ddisgyblion i Nasareth, lle cafodd ei fagu.
2 Ar y dydd Saboth dechreuodd ddysgu yn y synagog. Roedd y bobl oedd yn gwrando arno yn rhyfeddu. “Ble wnaeth hwn ddysgu'r pethau yma i gyd?” medden nhw. “Ble gafodd e'r holl ddoethineb, a'r gallu i wneud gwyrthiau?
3 Saer ydy e! Mab Mair! Brawd Iago, Joseff, Jwdas a Simon! Mae ei chwiorydd yn dal i fyw yn y pentref ma!” Roedden nhw wedi cymryd yn ei erbyn.
4 Dyma Iesu'n dweud wrthyn nhw, “Mae proffwyd yn cael ei barchu ym mhobman ond yn y dre lle cafodd ei fagu – gan ei bobl ei hun a'i deulu ei hun!”