3 Saer ydy e! Mab Mair! Brawd Iago, Joseff, Jwdas a Simon! Mae ei chwiorydd yn dal i fyw yn y pentref ma!” Roedden nhw wedi cymryd yn ei erbyn.
4 Dyma Iesu'n dweud wrthyn nhw, “Mae proffwyd yn cael ei barchu ym mhobman ond yn y dre lle cafodd ei fagu – gan ei bobl ei hun a'i deulu ei hun!”
5 Felly allai Iesu ddim gwneud rhyw lawer o wyrthiau yno, dim ond gosod ei ddwylo ar ychydig bobl oedd yn sâl iawn i'w hiacháu nhw.
6 Roedd yn rhyfeddu eu bod nhw mor amharod i gredu.Aeth Iesu ar daith o gwmpas y pentrefi yn dysgu'r bobl.
7 Galwodd y deuddeg disgybl at ei gilydd, a'u hanfon allan bob yn ddau a rhoi awdurdod iddyn nhw i fwrw allan ysbrydion drwg.
8 Dyma ddwedodd wrthyn nhw: “Peidiwch mynd â dim byd ond ffon gyda chi – dim bwyd, dim bag teithio na hyd yn oed newid mân.
9 Gwisgwch sandalau, ond peidiwch mynd â dillad sbâr.