32 I ffwrdd â nhw mewn cwch i le tawel i fod ar eu pennau eu hunain.
33 Ond roedd llawer o bobl wedi eu gweld yn gadael, ac wedi cerdded ar frys o'r holl drefi a chyrraedd yno o'u blaenau.
34 Pan gyrhaeddodd Iesu'r lan, roedd gweld y dyrfa fawr yno yn ennyn tosturi ynddo, am eu bod fel defaid heb fugail i ofalu amdanyn nhw. Felly treuliodd amser yn dysgu llawer o bethau iddyn nhw.
35 Roedd hi'n mynd yn hwyr, felly dyma'i ddisgyblion yn dod ato a dweud, “Mae'r lle yma'n anial, ac mae'n mynd yn hwyr.
36 Anfon y bobl i ffwrdd i'r pentrefi sydd o gwmpas, iddyn nhw gael mynd i brynu rhywbeth i'w fwyta.”
37 Ond atebodd Iesu, “Rhowch chi rywbeth i'w fwyta iddyn nhw.” “Beth? Ni?” medden nhw, “Byddai'n costio ffortiwn i gael bwyd iddyn nhw i gyd!”
38 “Ewch i weld faint o fwyd sydd ar gael,” meddai. Dyma nhw'n gwneud hynny, a dod yn ôl a dweud, “Pum torth fach a dau bysgodyn!”