35 Roedd hi'n mynd yn hwyr, felly dyma'i ddisgyblion yn dod ato a dweud, “Mae'r lle yma'n anial, ac mae'n mynd yn hwyr.
36 Anfon y bobl i ffwrdd i'r pentrefi sydd o gwmpas, iddyn nhw gael mynd i brynu rhywbeth i'w fwyta.”
37 Ond atebodd Iesu, “Rhowch chi rywbeth i'w fwyta iddyn nhw.” “Beth? Ni?” medden nhw, “Byddai'n costio ffortiwn i gael bwyd iddyn nhw i gyd!”
38 “Ewch i weld faint o fwyd sydd ar gael,” meddai. Dyma nhw'n gwneud hynny, a dod yn ôl a dweud, “Pum torth fach a dau bysgodyn!”
39 Dyma Iesu'n dweud wrthyn nhw am wneud i'r bobl eistedd mewn grwpiau ar y glaswellt.
40 Felly dyma pawb yn eistedd mewn grwpiau o hanner cant i gant.
41 Wedyn dyma Iesu'n cymryd y pum torth a'r ddau bysgodyn, ac offrymu gweddi o ddiolch i Dduw. Torrodd y bara a'i roi i'w ddisgyblion i'w rannu i'r bobl, a gwneud yr un peth gyda'r ddau bysgodyn.