38 “Ewch i weld faint o fwyd sydd ar gael,” meddai. Dyma nhw'n gwneud hynny, a dod yn ôl a dweud, “Pum torth fach a dau bysgodyn!”
39 Dyma Iesu'n dweud wrthyn nhw am wneud i'r bobl eistedd mewn grwpiau ar y glaswellt.
40 Felly dyma pawb yn eistedd mewn grwpiau o hanner cant i gant.
41 Wedyn dyma Iesu'n cymryd y pum torth a'r ddau bysgodyn, ac offrymu gweddi o ddiolch i Dduw. Torrodd y bara a'i roi i'w ddisgyblion i'w rannu i'r bobl, a gwneud yr un peth gyda'r ddau bysgodyn.
42 Cafodd pawb ddigon i'w fwyta,
43 a dyma nhw'n codi deuddeg llond basged o dameidiau o fara a physgod oedd dros ben.
44 Roedd tua pum mil o ddynion wedi cael eu bwydo yno!