40 Felly dyma pawb yn eistedd mewn grwpiau o hanner cant i gant.
41 Wedyn dyma Iesu'n cymryd y pum torth a'r ddau bysgodyn, ac offrymu gweddi o ddiolch i Dduw. Torrodd y bara a'i roi i'w ddisgyblion i'w rannu i'r bobl, a gwneud yr un peth gyda'r ddau bysgodyn.
42 Cafodd pawb ddigon i'w fwyta,
43 a dyma nhw'n codi deuddeg llond basged o dameidiau o fara a physgod oedd dros ben.
44 Roedd tua pum mil o ddynion wedi cael eu bwydo yno!
45 Yn syth wedyn dyma Iesu'n gwneud i'w ddisgyblion fynd yn ôl i'r cwch a chroesi drosodd o'i flaen i Bethsaida, tra roedd yn anfon y dyrfa adre.
46 Ar ôl ffarwelio gyda nhw, aeth i ben mynydd er mwyn cael lle tawel i weddïo.