50 Roedden nhw wedi dychryn am eu bywydau. Ond dyma Iesu'n dweud wrthyn nhw, “Mae'n iawn! Fi ydy e. Peidiwch bod ag ofn.”
51 Yna, wrth iddo ddringo i mewn i'r cwch, dyma'r gwynt yn tawelu. Roedden nhw wedi dychryn go iawn, ac mewn sioc.
52 Doedden nhw ddim wedi deall arwyddocâd y torthau o fara; roedden nhw mor ystyfnig.
53 Ar ôl croesi'r llyn dyma nhw'n glanio yn Genesaret a chlymu'r cwch.
54 Dyma bobl yn nabod Iesu yr eiliad ddaethon nhw o'r cwch.
55 Dim ots lle roedd yn mynd, roedd pobl yn rhuthro drwy'r ardal i gyd yn cario pobl oedd yn sâl ar fatresi a dod â nhw ato.
56 Dyna oedd yn digwydd yn y pentrefi, yn y trefi ac yng nghefn gwlad. Roedden nhw'n gosod y cleifion ar sgwâr y farchnad ac yn pledio arno i adael iddyn nhw gyffwrdd y taselau ar ei glogyn. Roedd pawb oedd yn ei gyffwrdd yn cael eu hiacháu.