7 Galwodd y deuddeg disgybl at ei gilydd, a'u hanfon allan bob yn ddau a rhoi awdurdod iddyn nhw i fwrw allan ysbrydion drwg.
8 Dyma ddwedodd wrthyn nhw: “Peidiwch mynd â dim byd ond ffon gyda chi – dim bwyd, dim bag teithio na hyd yn oed newid mân.
9 Gwisgwch sandalau, ond peidiwch mynd â dillad sbâr.
10 Ble bynnag ewch chi, arhoswch yn yr un tŷ nes byddwch yn gadael y dref honno.
11 Os bydd dim croeso i chi yn rhywle, neu os bydd pobl yn gwrthod gwrando arnoch, ysgydwch y llwch oddi ar eich traed wrth adael. Bydd hynny'n arwydd o farn Duw arnyn nhw!”
12 Felly i ffwrdd â nhw i bregethu fod rhaid i bobl droi at Dduw a newid eu ffyrdd.
13 Roedden nhw'n bwrw allan llawer o gythreuliaid ac yn eneinio llawer o bobl ag olew a'u hiacháu nhw.