1 Roedd tyrfa fawr arall wedi casglu o'i gwmpas tua'r un adeg. Am bod dim bwyd gan y bobl, dyma Iesu'n galw ei ddisgyblion ato a dweud,
2 “Dw i'n teimlo dros y bobl yma i gyd; maen nhw wedi bod yma ers tri diwrnod heb gael dim i'w fwyta.
3 Os na chân nhw rywbeth i'w fwyta byddan nhw'n llewygu ar y ffordd adre. Mae rhai ohonyn nhw wedi dod o bell.”
4 Atebodd y disgyblion, “Pa obaith sydd i unrhyw un ddod o hyd i ddigon o fwyd iddyn nhw yn y lle anial yma?!”
5 Gofynnodd Iesu, “Sawl torth o fara sydd gynnoch chi?” “Saith,” medden nhw.
6 Yna dwedodd Iesu wrth y dyrfa am eistedd i lawr. Cymerodd y saith torth ac offrymu gweddi o ddiolch i Dduw, yna eu torri a'u rhoi i'w ddisgyblion i'w rhannu i'r bobl. A dyna wnaeth y disgyblion.