10 aeth i mewn i'r cwch gyda'i ddisgyblion a chroesi i ardal Dalmanwtha.
11 Daeth Phariseaid ato, a dechrau ffraeo. “Profa pwy wyt ti drwy wneud rhyw arwydd gwyrthiol,” medden nhw.
12 Ochneidiodd Iesu'n ddwfn, a dweud: “Pam mae'r bobl yma o hyd yn gofyn am wyrth fyddai'n arwydd iddyn nhw o pwy ydw i? Wir i chi, chân nhw ddim un gen i!”
13 Yna gadawodd nhw, a mynd yn ôl i mewn i'r cwch a chroesi drosodd i ochr arall Llyn Galilea.
14 Roedd y disgyblion wedi anghofio mynd â bwyd gyda nhw. Dim ond un dorth fach oedd ganddyn nhw yn y cwch.
15 Dyma Iesu'n eu rhybuddio nhw: “Byddwch yn ofalus, a cadwch draw oddi wrth furum y Phariseaid a burum Herod hefyd,”
16 Wrth drafod y peth dyma'r disgyblion yn dod i'r casgliad mai tynnu sylw at y ffaith fod ganddyn nhw ddim bara oedd e.