26 Dyma Iesu'n ei anfon adre, a dweud wrtho, “Paid mynd i mewn i'r pentref.”
27 Aeth Iesu a'i ddisgyblion yn eu blaenau i'r pentrefi o gwmpas Cesarea Philipi. Ar y ffordd yno gofynnodd iddyn nhw, “Pwy mae pobl yn ddweud ydw i?”
28 Dyma nhw'n ateb, “Mae rhai yn dweud mai Ioan Fedyddiwr wyt ti; eraill yn dweud Elias; a phobl eraill eto'n dweud mai un o'r proffwydi wyt ti.”
29 “Ond beth amdanoch chi?” gofynnodd, “Pwy dych chi'n ddweud ydw i?” Atebodd Pedr, “Ti ydy'r Meseia.”
30 Yna dyma Iesu'n eu rhybuddio nhw i beidio dweud hynny wrth neb.
31 Dechreuodd esbonio iddyn nhw fod rhaid iddo fe, Mab y Dyn, ddioddef yn ofnadwy. Byddai'r arweinwyr Iddewig, y prif offeiriaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith yn ei wrthod. Byddai'n cael ei ladd, ond yna'n dod yn ôl yn fyw ddeuddydd wedyn.
32 Roedd yn siarad yn hollol blaen gyda nhw. Felly dyma Pedr yn mynd ag e i'r naill ochr a dweud drefn wrtho am ddweud y fath bethau.