6 Yna dwedodd Iesu wrth y dyrfa am eistedd i lawr. Cymerodd y saith torth ac offrymu gweddi o ddiolch i Dduw, yna eu torri a'u rhoi i'w ddisgyblion i'w rhannu i'r bobl. A dyna wnaeth y disgyblion.
7 Roedd ychydig o bysgod bach ganddyn nhw hefyd; a gwnaeth Iesu yr un peth gyda'r rheiny.
8 Cafodd pawb ddigon i'w fwyta, ac roedd saith llond cawell o dameidiau bwyd dros ben.
9 Roedd tua pedair mil o bobl yno! Ar ôl eu hanfon i ffwrdd,
10 aeth i mewn i'r cwch gyda'i ddisgyblion a chroesi i ardal Dalmanwtha.
11 Daeth Phariseaid ato, a dechrau ffraeo. “Profa pwy wyt ti drwy wneud rhyw arwydd gwyrthiol,” medden nhw.
12 Ochneidiodd Iesu'n ddwfn, a dweud: “Pam mae'r bobl yma o hyd yn gofyn am wyrth fyddai'n arwydd iddyn nhw o pwy ydw i? Wir i chi, chân nhw ddim un gen i!”