13 Dw i am i chi ddeall, frodyr a chwiorydd annwyl, fy mod i wedi bwriadu dod acw lawer gwaith, ond mae rhywbeth wedi fy rhwystro bob tro hyd yn hyn. Dw i eisiau gweld mwy a mwy o bobl Rhufain yn dod i gredu yn Iesu, fel sydd wedi digwydd yn y gwledydd eraill lle dw i wedi bod.
14 Mae'n rhaid i mi ddweud am Iesu wrth bawb – mae fel petai gen i ddyled i'w thalu! Dim ots os ydyn nhw'n bobl ddiwylliedig sydd wedi cael addysg neu'n farbariaid cwbl ddi-addysg.
15 A dyna pam dw i mor awyddus i ddod atoch chi yn Rhufain hefyd i gyhoeddi'r newyddion da.
16 Does gen i ddim cywilydd o'r newyddion da o gwbl. Dyma'r ffordd rymus mae Duw'n gweithio i achub pawb sy'n credu – yr Iddew a phawb arall hefyd.
17 Dyma'r newyddion da sy'n dangos i ni sut allwn ni gael perthynas iawn â Duw. Yr unig beth sydd ei angen ydy credu ei fod e'n ffyddlon. Dyna mae'r ysgrifau sanctaidd yn ei ddweud: “Trwy ffydd mae'r un sy'n iawn gyda Duw yn byw.”
18 Ond mae Duw yn y nefoedd yn dangos ei fod yn ddig ac yn cosbi'r holl bethau drwg mae pobl yn eu gwneud yn ei erbyn. Maen nhw'n mygu'r gwirionedd gyda'u drygioni.
19 Mae beth sydd i'w wybod am Dduw yn amlwg – mae Duw wedi ei wneud yn ddigon clir i bawb.