Rhufeiniaid 15 BNET

1 Dylen ni sy'n credu'n gryf ein bod ni'n gwybod beth sy'n iawn feddwl bob amser am y rhai sy'n ansicr. Yn lle bwrw ymlaen i blesio'n hunain,

2 gadewch i ni ystyried pobl eraill, a cheisio eu helpu nhw a'u gwneud nhw'n gryf.

3 Dim ei blesio ei hun wnaeth y Meseia – fel mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Dw i hefyd wedi cael fy sarhau yn y ffordd gest ti dy sarhau.”

4 Cafodd pethau fel yma eu hysgrifennu yn y gorffennol i'n dysgu ni, er mwyn i'r ysgrifau sanctaidd ein hannog ni i fod yn amyneddgar wrth edrych ymlaen i'r dyfodol.

5 Dw i'n gweddïo y bydd Duw, sy'n rhoi'r amynedd a'r anogaeth yma, yn eich galluogi chi i fyw mewn heddwch gyda'ch gilydd wrth i chi ddilyn y Meseia Iesu.

6 Drwy wneud hynny byddwch gyda'ch gilydd yn rhoi clod i Dduw, sef Tad ein Harglwydd Iesu Grist.

7 Rhowch glod i Dduw drwy dderbyn eich gilydd, yn union fel gwnaeth y Meseia eich derbyn chi.

8 Daeth y Meseia at yr Iddewon fel gwas, i ddangos fod Duw wedi cadw'r addewidion a wnaeth i Abraham, Isaac a Jacob.

9 Felly mae pobl o bob cenedl yn clodfori Duw am ei drugaredd. Fel mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Bydda i'n dy foli di ymhlith y cenhedloedd, ac yn canu mawl i'th enw.”

10 Maen nhw'n dweud hefyd, “Llawenhewch, Genhedloedd, gyda'i bobl,”

11 a, “Molwch yr Arglwydd, chi'r cenhedloedd i gyd; Canwch fawl iddo, holl bobl y byd!”

12 Yna mae'r proffwyd Eseia'n dweud hyn: “Bydd y blaguryn o deulu Jesse yn tyfu, sef yr un sy'n codi i deyrnasu ar y cenhedloedd. Bydd yr holl genhedloedd yn gobeithio ynddo.”

13 Felly dw i'n gweddïo y bydd Duw, ffynhonnell gobaith, yn llenwi'ch bywydau gyda'r llawenydd a'r heddwch dwfn sy'n dod o gredu ynddo; ac y bydd yr Ysbryd Glân yn gwneud i obaith orlifo yn eich bywydau chi!

Gwaith Paul fel Cenhadwr

14 Does dim amheuaeth gen i, frodyr a chwiorydd, eich bod chi'n gwybod beth sy'n dda ac yn iawn, a'ch bod chi'n gallu dysgu eich gilydd.

15 Ond dw i wedi dweud rhai pethau yn blwmp ac yn blaen yn y llythyr yma, er mwyn eich atgoffa chi. Dyna'r gwaith mae Duw wedi ei roi i mi –

16 gwasanaethu y Meseia Iesu ymhlith pobl sydd ddim yn Iddewon. Dw i'n cyflwyno newyddion da Duw i chi, er mwyn i'r Ysbryd Glân eich glanhau chi a'ch gwneud chi sydd o genhedloedd eraill yn offrwm derbyniol i Dduw.

17 Dw i'n falch o beth mae'r Meseia Iesu wedi ei wneud trwof fi wrth i mi wasanaethu Duw.

18 Wna i ddim meiddio sôn am ddim arall! Mae'r Meseia wedi gwneud i bobl o'r cenhedloedd ufuddhau i Dduw. Mae wedi defnyddio beth dw i'n ei ddweud a'i wneud,

19 ac wedi cyflawni gwyrthiau rhyfeddol drwy nerth yr Ysbryd Glân. Dw i wedi cyhoeddi'r newyddion da am y Meseia yr holl ffordd o Jerwsalem i dalaith Ilyricwm.

20 Beth dw i wedi ceisio'i wneud ydy cyhoeddi'r newyddion da lle doedd neb wedi sôn am y Meseia o'r blaen. Does gen i ddim eisiau adeiladu ar sylfaen mae rhywun arall wedi ei osod.

21 Fel mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud eto: “Bydd pobl na ddwedodd neb wrthyn nhw amdano yn gweld, a rhai oedd heb glywed amdano yn deall.”

Bwriad Paul i ymweld â Rhufain

22 Dyna sydd wedi fy rhwystro i rhag dod atoch chi dro ar ôl tro.

23 Ond bellach does unman ar ôl i mi weithio yn yr ardaloedd yma, a dw i wedi bod yn dyheu am gyfle i ymweld â chi ers blynyddoedd.

24 Dw i am fynd i Sbaen, ac yn gobeithio galw heibio chi yn Rhufain ar y ffordd. Ar ôl i mi gael y pleser o'ch cwmni chi am ychydig, cewch chi fy helpu i fynd ymlaen yno.

25 Ar hyn o bryd dw i ar fy ffordd i Jerwsalem, gyda rhodd i helpu'r Cristnogion yno.

26 Mae'r Cristnogion yn Macedonia ac Achaia wedi casglu arian i'w rannu gyda'r Cristnogion tlawd yn Jerwsalem.

27 Roedden nhw'n falch o gael cyfle i rannu fel hyn, am eu bod yn teimlo fod ganddyn nhw ddyled i'w thalu. Mae pobl y cenhedloedd wedi cael rhannu bendithion ysbrydol yr Iddewon, felly mae'n ddigon teg i'r Iddewon gael help materol.

28 Pan fydda i wedi gorffen hyn, a gwneud yn siŵr eu bod wedi derbyn yr arian, dw i'n mynd i alw heibio i'ch gweld chi ar fy ffordd i Sbaen.

29 Dw i'n gwybod y bydda i'n dod i rannu bendith fawr gan y Meseia gyda chi.

30 Frodyr a chwiorydd, sy'n perthyn i'r Arglwydd Iesu Grist ac yn rhannu'r cariad mae'r Ysbryd yn ei roi, dw i'n apelio arnoch chi i ymuno gyda mi yn y frwydr drwy weddïo drosto i.

31 Gweddïwch y bydd Duw yn fy amddiffyn i rhag y rhai yn Jwdea sy'n gwrthod ufuddhau i Dduw. Gweddïwch hefyd y bydd y Cristnogion yn Jerwsalem yn derbyn y rhodd sydd gen i iddyn nhw.

32 Wedyn, os Duw a'i myn, galla i ddod atoch chi yn llawen a chael seibiant gyda chi.

33 Dw i'n gweddïo y bydd Duw, sy'n rhoi ei heddwch perffaith i ni, gyda chi i gyd. Amen.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16