6 A dych chi'n rhai o'r bobl hynny – wedi cael eich galw i berthynas â Iesu y Meseia.
7 Dw i'n ysgrifennu atoch chi i gyd yn Rhufain. Chi sydd wedi eich caru gan Dduw a'ch gwneud yn bobl arbennig iddo.Dw i'n gweddïo y byddwch chi'n profi'r haelioni rhyfeddol a'r heddwch dwfn mae Duw ein Tad a'r Arglwydd Iesu Grist yn ei roi i ni.
8 Dw i eisiau i chi wybod yn gyntaf fy mod i'n diolch i Dduw trwy Iesu y Meseia amdanoch chi i gyd, achos mae pobl drwy'r gwledydd i gyd yn sôn am eich ffydd chi.
9 Dw i wrthi'n gweithio fy ngorau glas dros Dduw trwy gyhoeddi'r newyddion da am ei Fab, ac mae e'n gwybod mod i'n gweddïo drosoch chi o hyd ac o hyd.
10 Dw i'n gweddïo y bydd e'n ei gwneud hi'n bosib i mi ddod atoch chi o'r diwedd.
11 Dw i wir yn hiraethu am gael dod i'ch gweld chi, i mi gael rhannu rhyw fendith ysbrydol gyda chi fydd yn eich gwneud chi'n gryf.
12 Byddwn i a chithau'n cael ein calonogi wrth i ni rannu'n profiadau.