1 Frodyr a chwiorydd annwyl, dw i'n dyheu o waelod calon ac yn gweddïo ar Dduw y bydd fy mhobl, yr Iddewon, yn cael eu hachub.
2 Galla i dystio eu bod nhw'n frwdfrydig dros Dduw, ond dŷn nhw ddim wedi deall y gwirionedd.
3 Yn lle derbyn ffordd Duw o ddod â phobl i berthynas iawn ag e ei hun, maen nhw wedi mynnu ceisio gwneud eu hunain yn iawn gyda Duw drwy gadw'r Gyfraith. Felly maen nhw wedi gwrthod plygu i Dduw.
4 Ond y Meseia ydy'r nod mae Cyfraith Duw yn anelu ato! Felly y rhai sy'n credu ynddo fe sy'n cael eu derbyn i berthynas iawn gyda Duw.