11 Fel mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Fydd pwy bynnag sy'n credu ynddo ddim yn cael ei siomi.”
12 Mae'n union yr un fath i'r Iddew ac i bawb arall. Un Arglwydd sydd, ac mae'n rhoi yn hael o'i fendithion i bwy bynnag sy'n galw arno.
13 Achos, “Bydd pwy bynnag sy'n galw ar enw yr Arglwydd yn cael ei achub.”
14 Ond wedyn, sut mae disgwyl i bobl alw arno os ydyn nhw ddim wedi credu ynddo? A sut maen nhw'n mynd i gredu ynddo heb fod wedi clywed amdano? Sut maen nhw'n mynd i glywed os ydy rhywun ddim yn dweud wrthyn nhw?
15 A phwy sy'n mynd i ddweud wrthyn nhw heb gael ei anfon? Dyna mae'r ysgrifau sanctaidd yn ei olygu wrth ddweud: “Mae mor wych fod y rhai sy'n cyhoeddi'r newyddion da yn dod!”
16 Ond dydy pawb ddim wedi derbyn y newyddion da. Fel mae'r proffwyd Eseia'n dweud, “Arglwydd, pwy sydd wedi credu ein neges ni?”
17 Mae'n rhaid clywed cyn gallu credu – clywed rhywun yn rhannu'r newyddion da am y Meseia.