5 Dyma ddwedodd Moses am y Gyfraith fel ffordd o gael perthynas iawn gyda Duw: “Y sawl sy'n gwneud y pethau yma sy'n cael byw go iawn.”
6 Ond mae cael perthynas iawn gyda Duw trwy gredu yn dweud: “Paid meddwl: Pwy wnaiff fynd i fyny i'r nefoedd?” (hynny ydy, i ddod â'r Meseia i lawr)
7 Neu “Pwy wnaiff fynd i lawr i'r dyfnder” (hynny ydy, i ddod â'r Meseia yn ôl yn fyw).
8 Dyma mae'n ei ddweud: “Mae'r neges yn agos atat ti; mae ar dy wefusau ac yn dy galon di.” (Hynny ydy, y neges dŷn ni'n ei chyhoeddi, sef mai credu ydy'r ffordd):
9 Os wnei di gyffesu ‛â'th wefusau‛, “Iesu ydy'r Arglwydd”, a chredu ‛yn dy galon‛ fod Duw wedi ei godi yn ôl yn fyw ar ôl iddo farw, cei dy achub.
10 Credu yn y galon sy'n dy wneud di'n iawn gyda Duw, a chei dy achub wrth gyffesu hynny'n agored.
11 Fel mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Fydd pwy bynnag sy'n credu ynddo ddim yn cael ei siomi.”