1 Dylai pawb fod yn atebol i awdurdod y llywodraeth. Duw sy'n rhoi awdurdod i lywodraethau, ac mae'r awdurdodau presennol wedi eu rhoi yn eu lle gan Dduw.
2 Mae rhywun sy'n gwrthwynebu'r awdurdodau yn gwrthwynebu rhywbeth mae Duw wedi ei ordeinio, a bydd pobl felly yn cael eu cosbi.
3 Does dim rhaid ofni'r awdurdodau os ydych yn gwneud daioni. Y rhai sy'n gwneud pethau drwg ddylai ofni. Felly gwna beth sy'n iawn a chei dy ganmol.
4 Wedi'r cwbl mae'r awdurdodau yn gwasanaethu Duw ac yn bodoli er dy les di. Ond os wyt ti'n gwneud drygioni, mae'n iawn i ti ofni, am fod y cleddyf sydd ganddo yn symbol fod ganddo hawl i dy gosbi di. Mae'n gwasanaethu Duw drwy gosbi'r rhai sy'n gwneud drwg.