11 Dylech chi fyw fel hyn am eich bod chi'n deall beth sy'n digwydd. Mae'n bryd i chi ddeffro o'ch difaterwch! Mae diwedd y stori, pan fyddwn ni'n cael ein hachub yn derfynol, yn agosach nag oedd pan wnaethon ni ddod i gredu gyntaf.
12 Mae'r nos bron mynd heibio, a'r diwrnod newydd ar fin gwawrio. Felly gadewch i ni stopio ymddwyn fel petaen ni'n perthyn i'r tywyllwch, a pharatoi'n hunain i frwydro dros y goleuni.
13 Gadewch i ni ymddwyn yn weddus fel petai'n olau dydd. Dim partïon gwyllt a meddwi; dim ymddwyn yn anfoesol; dim penrhyddid i'r chwantau; dim ffraeo a chenfigennu.
14 Gadewch i'r Arglwydd Iesu Grist fod fel gwisg amdanoch chi, a pheidiwch rhoi sylw i'ch chwantau hunanol drwy'r adeg.