7 Felly talwch beth sy'n ddyledus i bob un – trethi a thollau. A dangoswch barch atyn nhw.
8 Ond mae un ddyled allwch chi byth ei thalu'n llawn, sef y ddyled i garu'ch gilydd. Mae cariad yn gwneud popeth mae Cyfraith Duw yn ei ofyn.
9 Mae'r gorchmynion i gyd – “Paid godinebu,” “Paid llofruddio,” “Paid dwyn,” “Paid chwennych,” ac yn y blaen – yn cael eu crynhoi yn yr un rheol yma: “Rwyt i garu dy gymydog fel rwyt ti'n dy garu dy hun.”
10 Dydy cariad ddim yn gwneud niwed i neb, felly cariad ydy'r ffordd i wneud popeth mae Cyfraith Duw'n ei ofyn.
11 Dylech chi fyw fel hyn am eich bod chi'n deall beth sy'n digwydd. Mae'n bryd i chi ddeffro o'ch difaterwch! Mae diwedd y stori, pan fyddwn ni'n cael ein hachub yn derfynol, yn agosach nag oedd pan wnaethon ni ddod i gredu gyntaf.
12 Mae'r nos bron mynd heibio, a'r diwrnod newydd ar fin gwawrio. Felly gadewch i ni stopio ymddwyn fel petaen ni'n perthyn i'r tywyllwch, a pharatoi'n hunain i frwydro dros y goleuni.
13 Gadewch i ni ymddwyn yn weddus fel petai'n olau dydd. Dim partïon gwyllt a meddwi; dim ymddwyn yn anfoesol; dim penrhyddid i'r chwantau; dim ffraeo a chenfigennu.