14 Dw i fy hun, wrth ddilyn yr Arglwydd Iesu, yn credu'n gydwybodol fod yna ddim bwyd sy'n ‛aflan‛ ynddo'i hun. Ond os ydy rhywun yn meddwl fod rhyw fwyd yn ‛aflan‛, mae wir yn aflan i'r person hwnnw.
15 Felly os wyt ti'n bwyta rhywbeth gan wybod ei fod yn broblem i Gristion arall, dwyt ti ddim yn dangos rhyw lawer o gariad. Paid gadael i dy arferion bwyta di wneud niwed i rywun arall wnaeth y Meseia farw drosto.
16 A paid gadael i beth sy'n iawn yn dy olwg di wneud i bobl sydd ddim yn Gristnogion amharchu'r Meseia.
17 Dim beth wyt ti'n ei fwyta a'i yfed sy'n dangos fod Duw'n teyrnasu yn dy fywyd di. Perthynas iawn gyda Duw sy'n cyfri, a'r heddwch dwfn a'r llawenydd mae'r Ysbryd Glân yn ei roi.
18 Mae'r un sy'n dilyn y Meseia fel yma yn plesio Duw ac yn cael ei barchu gan bobl eraill.
19 Felly gadewch i ni wneud beth sy'n arwain i heddwch ac sy'n cryfhau pobl eraill.
20 Peidiwch dinistrio gwaith da Duw er mwyn cael bwyta beth fynnwch chi. Mae pob bwyd yn iawn i'w fwyta, ond ddylech chi ddim bwyta rhywbeth os ydy e'n creu problemau i rywun arall.