20 Peidiwch dinistrio gwaith da Duw er mwyn cael bwyta beth fynnwch chi. Mae pob bwyd yn iawn i'w fwyta, ond ddylech chi ddim bwyta rhywbeth os ydy e'n creu problemau i rywun arall.
21 Mae'n well dewis peidio bwyta cig am unwaith, a pheidio yfed gwin, a pheidio gwneud unrhyw beth fyddai'n achosi i Gristion arall faglu.
22 Beth bynnag rwyt yn ei gredu am hyn i gyd, cadwa hynny rhyngot ti a Duw. Mae bendith fawr i'r un sydd ddim yn ei gondemnio ei hun drwy fynnu gwneud beth mae e'n gredu sy'n iawn o hyd!
23 Ond mae'r person sydd ddim yn siŵr beth sy'n iawn yn ei gondemnio ei hun wrth fwyta – am beidio gwneud beth mae'n gredu fyddai Duw am iddo'i wneud. Mae peidio gwneud beth dŷn ni'n gredu mae Duw am i ni ei wneud yn bechod.